Ymweliad i Rhandir Mwyn i weld y datblygiad tai diweddaraf
Croesawodd Adra, cymdeithas dai blaenllaw yng ngogledd Cymru, ddirprwyaeth o Gyngor Gwynedd yr wythnos diwethaf i weld sut mae hen randiroedd wedi’i drawsnewid i greu datblygiad tai newydd.
Mae Adra gyda’r contractwr DU Construction wedi bod yn datblygu 17 o gartrefi modern newydd ar stad Rhandir Mwyn, ger Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon.
Mae’r datblygiad yn cynnwys cymysgedd o dai rhent canolraddol a rhent cymdeithasol ar gyfer trigolion lleol, gyda’r preswylwyr pellach wedi symud mewn yw cartrefi newydd.
Dywedodd Iwan Trefor Jones, Prif Weithredwr Adra: “Rydym yn falch iawn o’r datblygiad yng Nghaernarfon, ar ffaith ein bod yn gallu darparu cartrefi o safon i drigolion lleol.
“Mae cymaint o alw am dai fforddiadwy yng Ngwynedd, sy’n adlewyrchu’r darlun cenedlaethol. Rydym wedi gwneud ymrwymiad cadarn yn ein Cynllun Corfforaethol i adeiladu cartrefi newydd sbon o ansawdd uchel y gall pobl fod yn falch ohonynt, sy’n ynni effeithlon ac yn fforddiadwy o safbwynt rent a chostau gwresogi.
Mae’r datblygiad hwn yn rhan o bartneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd a Chymdeithasau Tai fel rhan o Raglen Ddatblygu Tai Fforddiadwy Gwynedd. Ariannwyd y cynllun gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Tai Cymdeithasol Cyngor Gwynedd.
Ychwanegodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:
“O ystyried yr angen dybryd am dai fforddiadwy ledled y Sir, mae’r Cyngor wedi gosod nod i 700 o dai cymdeithasol gael eu hadeiladu trwy Wynedd dros y blynyddoedd nesaf. Felly mae’n newyddion calonogol iawn bod 17 o dai ychwanegol bellach yn gartrefi hir dymor i bobl yng Nghaernarfon, ac yn mynd â ni gam yn nes at wireddu ein huchelgais.
“Mae’n ffaith hysbys bod yna argyfwng tai difrifol yng Ngwynedd, fodd bynnag, mae’r berthynas gref sydd gennym gyda’n partneriaid tai fel Adra yn golygu y gallwn gydweithio i leddfu effeithiau’r argyfwng yma i drigolion Gwynedd.
“Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod mwy o dai fforddiadwy, o ansawdd uchel, sy’n ynni effeithlon yn dod ar gael i bobl leol yn eu cymunedau eu hunain.”