Ymweliad i weld y datblygiad diweddaraf yn Ninbych
Croesawodd Adra, cymdeithas dai blaenllaw yng ngogledd Cymru a Castle Green Homes, ddirprwyaeth o Gyngor Sir Ddinbych yr wythnos diwethaf i weld sut mae tir ger Ysgol Pendref yn Ninbych yn cael ei drawsnewid yn ddatblygiad tai sylweddol.
Ar hyn o bryd mae Adra yn datblygu ei ddatblygiad mwyaf o dai fforddiadwy hyd yma gyda 110 o gartrefi.
Bydd 49 o’r eiddo at ddibenion rhent cymdeithasol, gyda 31 yn unedau rhent canolradd a 30 yn eiddo rhent y farchnad.
Mae’r datblygiad cyfan yn cynnwys cymysgedd o dai 2, 3 a 4 ystafell wely.
Dywedodd Owen Bracegirdle, Uwch Reolwr Prosiect Datblygu Adra: “Rydym yn falch iawn o weld y cynnydd sy’n cael ei wneud gyda’r datblygiad yn Ninbych.
“Mae cymaint o alw am dai fforddiadwy yn Sir Ddinbych, sy’n adlewyrchu’r darlun cenedlaethol. Mae Adra wedi gwneud ymrwymiad cadarn yn ei Gynllun Corfforaethol i adeiladu cartrefi newydd, o ansawdd uchel a fforddiadwy y gall pobl fod yn falch ohonynt, ac rydym wedi ymrwymo i barhau â’r gwaith, gyda’r nod o’i gwblhau yn y gwanwyn.”
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych: “Mae Cyngor Sir Ddinbych yn falch o weithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig fel Adra i adeiladu mwy o gartrefi fforddiadwy i’n trigolion.
“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gennym dai o safon sy’n diwallu anghenion ein trigolion. Er bod prinder cenedlaethol o dai cymdeithasol a thai fforddiadwy ar hyn o bryd, bydd y dull partneriaeth hwn yn cynyddu’r stoc tai lleol i sicrhau y gallwn ddiwallu’r angen hwnnw.
“Mae Sir Ddinbych wedi cael ei chydnabod ers tro fel yr Awdurdod Lleol sy’n perfformio orau yng ngogledd Cymru am ddarparu tai fforddiadwy ac mae’r datblygiad hwn, sydd hefyd wedi canolbwyntio ar ddarparu eiddo mwy gwyrdd, yn golygu y bydd ein preswylwyr nid yn unig yn byw mewn tai fforddiadwy, ond byddant hefyd yn gallu arbed arian ar eu biliau ynni ar yr un pryd. Edrychaf ymlaen at glywed sut maen nhw wedi ymgartrefu yn eu cartrefi newydd.”
Os oes gennych ddiddordeb mewn cartref rhent cymdeithasol cofrestrwch gyda SARTH: 01824 712911 / Ymgeisio am dai cymdeithasol | Cyngor Sir Ddinbych (denbighshire.gov.uk)
Os oes gan unrhyw un ddiddordeb yn yr opsiwn rhentu canolradd, mae angen iddynt gofrestru gyda Thai Teg: www.taiteg.org.uk