Yn galw ar grefftwyr lleol
Mae Cymdeithas Tai Adra yn galw ar bob masnach leol i fynychu digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr a gynhelir ym Mangor ym mis Mai.
Cynhelir y digwyddiad yn Bwyd Da ar y Stryd Fawr, Bangor ddydd Mawrth, 23 Mai rhwng 8.30am a 11.30am.
Bydd cynrychiolwyr o Adra, Wynne Construction, Read Construction, Novus Property Solutions, Bell Group a Gareth Morris Construction yn bresennol.
Dywedodd Ceri Ellis Jackson, Cydlynydd Gwerth Cymdeithasol Adra: “Mae hwn yn gyfle gwych i grefftwyr lleol ddod draw i siarad yn uniongyrchol â’r prynwyr.
“Mae digwyddiadau tebyg wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y gorffennol ac mae llawer o’r crefftau a fynychodd wedi cael cyfle i wneud cais am waith. Mae angen i’r holl sefydliadau dan sylw hysbysebu gwaith ar gyfer crefftau lleol ac egluro’r math o gyfleoedd sydd ar gael felly byddwn yn annog crefftwyr i weld beth sydd ar gael.”
Er mwyn archebu lle yn y sesiwn, cliciwch yma.